Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Drymiwr Bach
JOHN, Sir William Goscombe (1860-1952)
Ysgrifennodd y cerflunydd ym 1925 fod hwn yn un o'i weithiau 'gorau a mwyaf poblogaidd'. Goscombe John ei hunan a awgrymodd y dylid ei roi yng nghyntedd yr Amgueddfa. Copi o ffigwr ar Gofeb Ryfel De Affrica i Gatrawd y Brenin yn Lerpwl yw'r milwr ifanc. Disgrifiodd Goscombe John y bachgen ym Mrwydr Dettingen ym 1743, 'yn eistedd ar wrthglawdd drylliedig ac yn gweiddi ar ei gyfeillion, ac yn curo galwad gynhyrfus a llawen i'r gad, gan ddiystyru pob tristwch'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.