Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Capriccio Rhufeinig
Yn ogystal â gweithio fel arlunydd topograffyddol, câi Richards ei edmygu'n fawr hefyd fel peintiwr golygfeydd yn y theatr. Mae'n bosib fod y gwaith hwn, yn null yr arlunydd Giovanni Paolo Panini (1691-1765) o Rufain, yn gynllun cefndir ar gyfer y theatr. Ar y dde mae pont Titus a godwyd yn OC 81 i nodi cipio Jerwsalem gan yr Ymerawdr Titus. Mae'r ganhwyllbren ô'r saith ganged a gymerwyd o'r deml i'w gweld ar amlinell y bwa. Yn y canol mae'r Colosseum ac ar y chwith mae Teml Castor a Pollux, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 484 CC i frodyr chwedlonol Helen o Gaerdroya.