Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Mair yn penlinio wrth addoli Crist yn blentyn ifanc. Ar y dde iddi, mae Ioan Fedyddiwr yn dal ffon a rhuban'.' Dangosir Ioan Fedyddiwr yn y llun fel rhagflaenydd Crist yn cysylltu'r Hen Destament a'r Newydd ac fel Nawddsant Fflorens. Daw siâp crwn y darlun - 'tondo -' o siâp y platiau peintiedig a gyflwynwyd i fam ar ôl geni yn ôl y traddodiad. Byddai'r rheiny'n aml yn cael eu haddurno â lluniau o'r Forwyn. Botticelli oedd un o arlunwyr mwyaf poblogaidd y bymthegfed ganrif yn Rhufain. Mae yna lawer fersiwn o'r cyfansoddiad hwn ar gael, gan gynnwys un yn yr Oriel Genedlaethol. Mae'n debyg mai arlunydd cynorthwyol a beintiodd y gwaith, er ei fod o safon uchel iawn.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.