Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r gwaith hwn yn nodweddiadol o waith Ifor Davies yng nghanol y 1950au pan fu’n arbrofi gyda phaentiadau haniaethol gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol wedi’u gweithio’n helaeth. Mae’r ffurfiau tywyll amlwg wedi’u gwneud o bowdr siarcol wedi’i gymysgu â glud, ac maen nhw’n fersiynau mwy o ‘fraslun’ o smotiau neu flotiau inc Indiaidd – gan gyflwyno themâu yr isymwybod a swrealaeth. Fel y noda’r teitl, Eryr, mae’r ffurf ar yr ochr dde yn ymdebygu i aderyn.