Rhagddarluniad - Eryr - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Cyfrannwch
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Cyfrannwch
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Rhagddarluniad - Eryr

DAVIES, Ivor (Artist)

Mae’r gwaith hwn yn nodweddiadol o waith Ifor Davies yng nghanol y 1950au pan fu’n arbrofi gyda phaentiadau haniaethol gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol wedi’u gweithio’n helaeth. Mae’r ffurfiau tywyll amlwg wedi’u gwneud o bowdr siarcol wedi’i gymysgu â glud, ac maen nhw’n fersiynau mwy o ‘fraslun’ o smotiau neu flotiau inc Indiaidd – gan gyflwyno themâu yr isymwybod a swrealaeth. Fel y noda’r teitl, Eryr, mae’r ffurf ar yr ochr dde yn ymdebygu i aderyn.

Rhagddarluniad - Eryr
Delwedd: © Ivor Davies/Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A(L) 1577

Creu/Cynhyrchu

DAVIES, Ivor
b. 1935
Rôl: Artist
Cyfnod: 1956-1958

Mesuriadau

Uchder (cm): 94
Lled (cm): 122

Techneg

Mixed media on hessian

Deunydd

Mixed media

Lleoliad

In store

Categorïau

Celf Gain ar fenthyg | Fine Art loan Celf Gain | Fine Art Celf ar y Cyd (100 Artworks) Derek Williams Trust Collection Aderyn Haniaethol CADP content Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams Artistiaid y 21ain ganrif
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

<p>Gosodwaith mawr gan Cerith Wyn Evans yw Radiant Fold (…the Illuminating Gas) a gomisiynwyd ar gyfer Amgueddfa Cymru drwy gynllun Great Works y Gymdeithas Gelf Gyfoes. Ceir adlais yma o waith eiconig Marcel Duchamp, The Bride Stripped Bare by Her Batchelors, Even (1915–23). Mae’r pedwar golau neon yn ymgnawdoliad o’r diagramau optegol cyfrin a alwyd gan Duchamp yn ‘dystion yr ocwlt’. Cynhyrchwyd y gwaith yn benodol ar gyfer Oriel 24 yn Adain y Gorllewin, er mwyn chwarae mig â phensaernïaeth fodernaidd yr ystafell a hanes ehangach yr Amgueddfa a’i chasgliadau.</p> <p>Ganwyd Cerith Wyn Evans yn Llanelli ym 1958. Ers y 1990au mae ei waith wedi canolbwyntio ar gerflunio a gosodwaith sy’n ymdrin â’n dealltwriaeth o iaith a dirnadaeth. Gwelir ei waith mewn nifer o arddangosfeydd rhyngwladol unigol a grŵp, gan gynnwys comisiwn sylweddol ar gyfer Orielau Duveen Tate Britain yn 2017. Cefnogir cynllun Great Works yn hael gan sefydliad Sfumato gyda’r nod o fynd i’r afael â’r diffyg yn amgueddfeydd y DU o waith artistiaid Prydeinig mawr yr 20 mlynedd diwethaf. Radiant Fold (…the Illuminating Gas) yw’r gwaith cyntaf gan Cerith Wyn Evans i gael ei gaffael i gasgliad cyhoeddus yng Nghymru.</p>

Artist: EVANS, Cerith Wyn
(2017-2018)
NMW A 24928
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: BRITISH SCHOOL, 20th Century
(20th century)
NMW A(L) 1346
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Ganed y paentiwr a’r garddwr, Cedric Morris, yn Sgeti, Abertawe, ac astudiodd ym Mharis. Cyfarfu Morris â’i gydymaith oes, yr arlunydd Arthur Lett-Haines, ym 1918. Ym 1937, sefydlodd y ddau Ysgol Baentio ac Arlunio Dwyrain Anglia. Roedd eu disgyblion yn cynnwys Lucian Freud, a baentiodd y portread hwn o’i athro ym 1940. Cofiai Freud yn ddiweddarach: ‘Dysgodd Cedric fi i baentio ac, yn bwysicach oll, i ddal ati. Nid oedd yn dweud rhyw lawer, ond roedd yn gadael i mi ei wylio’n gweithio. Rwyf i bob amser wedi edmygu ei baentiadau a phopeth amdano’. </p> <p>Tynnodd Morris lun ei fyfyriwr hefyd yn yr un flwyddyn (Oriel Tate). Erbyn hyn, roedd potensial Freud yn cael ei gydnabod yn eang. Ar 7 Mawrth 1940, dywedodd yr Evening Standard fod ynddo'r 'addewid i fod yn baentiwr nodedig...deallus a llawn dychmyg, ag iddo synnwyr seicolegol greddfol yn hytrach na gwyddonol'.</p>

Artist: FREUD, Lucian
(1940)
NMW A 12875
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: THOMAS, Thomas Henry
NMW A 18825
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯