Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mewnlun Iseldiraidd
Mae gwraig y tŷ'n brysur yn brodio ac yn dewis llysiau o bwced, ond mae'n debyg nad yw hi mor rhinweddol ag y mae'n ymddangos. Byddai'r arlunydd Brekelenkam yn arbenigo mewn darluniau graddfa fach o'r tu mewn i adeiladau, a chanddynt ystyron cudd. Mae'r ferf 'naaien' (gwnïo) o'r Iseldireg yn golygu cyplu hefyd, ac ystyriwyd bod winwns yn affrodisiaid. Mae tuswau o flodau'n rhybuddio rhag pleserau byrhoedlog ac mae'r llyfrau caeedig yn awgrymu anwybodaeth ddynol. Mae'r gwely yn y cefndir yn awgrymu y gallai'r wraig fod yn butain.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.