Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae 'Yr Actor' yn un o bum paentiad a wnaeth Hockney yn ystod cyfnod o chwe wythnos yn dysgu ym Mhrifysgol Iowa yn fuan wedi iddo symud i UDA. Mae'n cynnwys amrywiaeth o fotifau sydd wedi bod yn ganolog i'w 'oeuvre', gan gynnwys gosodiad golygfa tebyg i lwyfan, y soffa batrymog a'r siapiau fel caligraffi yn yr awyr. Seiliwyd y ffigwr, a welwyd yn ystod taith yr artist i'r Aifft ym mis Medi 1963, ar gerflun o'r pharo hereticaidd Akhenaton (1370-52 CC). Mae pennau tebyg yn ymddangos yn 'Pedwar Pen (Eifftaidd)' (1963) Hockney a 'Casglwr Celf o Galiffornia' (1964). Yn ystod teyrnasiad y pharo llwyddodd arlunwyr i ymgyrraedd at ryddid mynegiant na wnaethpwyd o'r blaen, ac ers hynny, mae wedi dod i gael ei weld fel ffigwr cyfoes, a anwyd ymhell cyn ei amser; cyfansoddwyd yr opera 'Akhnaten' gan Philip Glass ym 1984. Mae'r rhychwant o gyfeiriadau llenyddol a hanesyddol Eifftaidd sy'n ymddangos yng ngwaith Hockney yn ystod 1961-63 yn awgrymu fod ei ddewis o bwnc yn hollol fwriadol. Yn 'Yr Actor', mae'r cyfuniad o 'haniaethau lliwgar, byrfodau graffeg ac amrywiaethau chwaraeus ar faint' yn nodweddiadol o'r dyfeisgarwch a'r greadigaeth sy'n bywiocau cynyrchiadau cyfnod hynod greadigol Hockney oddeutu 1962-66.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.