Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ym 1685 daeth John Hanbury (1664-1734) yn gyfrifol am ystadau ei dad a'r gwaith haearn ym Mhont-y-pwll a gwneud y lle yn ganolfan ddiwydiannol broffidiol iawn.
Cynlluniodd y felin rolio a fyddai'n troi barrau haearn yn blatiau tenau a gwastad iawn yn eithriadol o rad. Yn y 1720au ychwanegodd ef a'i asiant medrus, Edward Allgood (1681-1763), waith mawr i blatio alcem. Bu'n AS dros Gaerloyw ac yna ym Mynwy. Richardson oedd y portreadydd brodorol gorau ym Mhrydain ar ddechrau'r 18fed ganrif. Roedd yn awdur dylanwadol ar bynciau celfyddydol, ac yn casglu darluniau gan yr hen feistri. Mae ei bortreadau yn syml a diymhongar.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.