Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r gwaith celf hwn yn dangos y gêm brawf gyntaf erioed rhwng timau rygbi Cymru a Seland Newydd ar 16 Rhagfyr 1905. Cafodd y gêm ei chwarae ar Barc yr Arfau, Caerdydd o flaen torf o 40,000 wedi’i dyfarnu gan yr Albanwr, John Dallas. Yn y gwaith celf hwn, mae asgellwr Cymru, Teddy Morgan, yn plymio ar draws y llinell gais gan roi Cymru ar y blaen i’r Crysau Duon cyn hanner amser. Enillodd Cymru’r gêm 3-0. Mae’r gêm hon yn arwyddocaol nid yn unig oherwydd y sgôr ond hefyd oherwydd bod tîm a chefnogwyr Cymru, dan arweiniad yr asgellwr Teddy Morgan, wedi canu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau, mewn ymateb i glywed her Haka Seland Newydd. Hwn oedd y tro cyntaf i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn gêm chwaraeon.