Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Di-deitl (XIV)
Paentiad mawr sy’n cynnwys marciau bach mewn tonau tebyg, wedi’u gosod ar draws grid gwaelodol yw Di-deitl XIV. Wrth i ni gamu’n ôl oddi wrth y paentiad, mae ffurfioldeb y grid yn hydoddi a phrofwn y marciau lliw fel rhythmau amhenodol sy’n chwarae ar draws yr arwyneb wedi’i baentio. Mae stiwdio James Hugonin yn Cheviot Hills yn Northumberland, ac mae’r symudiad a’r lliw yn ei waith yn gysylltiedig â golau a chysgodion sy’n symud ar draws tirwedd eang. Mae Di-deitl XIV yn ein gwahodd i oedi, i arafu i lawr, ac i brofi paentio mewn modd mwy meddylgar.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.