Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Castell Caernarfon i’w weld yn y pellter, yng ngolau ariannaidd y dirwedd glasurol hon. Mae’r coed tal a’r afon lydan yn rhoi strwythur i’r llun, yn unol ag egwyddorion Claude Lorrain. Mae adar ac anifeiliaid pori yn bywiocáu’r tir creigiog ym mlaen y darlun. Daeth Copley Fielding i Gymru ar sawl achlysur. Mae'n debyg iddo gael ei seilio ar frasluniau a wnaed yn ystod ymweliad â Gogledd Cymru ym 1815, a chafodd ei arddangos yn y Sefydliad Prydeinig ym 1819. Defnyddiai ddyfrliwiau fel arfer, ond cynhyrchodd nifer o beintiadau olew tua’r un cyfnod.Arlunydd dyfrlliw yn bennaf oedd Fielding a Llywydd y Gymdeithas Peintwyr Dyfrlliw o 1831 tan ei farw. Rhwng 1812 a 1820 gwnaeth nifer o dirluniau olew mawr, gan gynnwys y gwaith hwn.