Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffigwr (wedi'i fframio)
JAMES, Merlin (b. 1960)
“Rwy’n meddwl bod y gwaith yn ymwneud â rhyw, nid darlunio” – Merlin James. Oherwydd y ffordd y mae'r gwaith hwn wedi'i gyfansoddi, nid yw'n amlwg yn syth mai gweithred rywiol yw'r hyn rydyn ni’n ei weld. Unwaith y daw hynny'n glir, mae'r manylion yn ymddangos yn eithaf graffig. Mae gan Merlin James ddiddordeb mewn cwestiynu ffurfiau traddodiadol ar hanes celf, gan gynnwys y pwnc ac, yn y gwaith hwn, rôl y ffrâm. Mae'r gwaith hwn yn rhan o gyfres o baentiadau rhyw. Mae'n dathlu'r weithred o ryw yn hytrach na defnyddio paentio fel modd o wrthrycholi'r corff benywaidd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.