Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae osgo hamddenol ac anffurfiol y bachgen anhysbys hwn yn nodweddiadol o ddull Wilson o bortreadu. Tua 1729 symudodd Wilson i Lundain i astudio gyda'r portreadydd Thomas Wright. Cafodd Wilson lwyddiant cymedrol fel peintiwr portreadau yn gynnar yn ei yrfa, ond yn ystod ei gyfnod yn yr Eidal penderfynodd droi ei sylw at beintio tirluniau. Roedd hyn yn benderfyniad dewr, gan fod peintio portreadau yn waith mwy proffidiol i artistiaid Prydeinig yn y cyfnod hwnnw, ac ystyriwyd fod peintio tirluniau yn waith israddol.