Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Banner

Yoxall, Dafydd Alwyn
Jones, Marian

Baner wedi'i phaentio, gyda delwedd ganolog sydd yn efelychiad o logo Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Mae’r faner wedi ei harysgrifio gyda’r geiriau YMGYRCH / CHWARELWYR FFESTINIOG / CYFIAWNDER JUSTICE / I’R CHWARELWYR : FOR THE QUARRYMEN / A’R GWEDDWON : AND THEIR WIDOWS

Mae’r faner wedi'i hadeiladu o ddarn canolog o ffabrig - wedi'i baentio'n wyn - gyda rhaff ffabrig du i lawr bob ochr, a fabrig coch wedi ei beipio ac ymyl du ar hyd y gwaelod. Mae’r llythrennau wedi'u paentio'n ddu, a’r ddelwedd wedi'i baentio mewn coch, du a llwyd. Ar hyn top y faner mae polyn pren (a oedd yn cynnal y faner) wedi ei baentio yn ddu.

Creuwyd y faner brotest yn niwedd y 1970au i gefnogi ymgyrchu yn y cymunedau llechi ar gyfer ceisio sicrhau iawndal i chwarelwyr (a’u teuluoedd) a ddioddefodd o effeithiau llwch llechi – silicosis.

Dros y blynyddoedd bu meddygon y diwydiant llechi yn gwadu effaith niweidiol llwch llechi ar iechyd chwarelwyr. Ym 1922 aeth Dr Bradley Hughes, meddyg Chwarel Penrhyn, mor bell a dweud:- “We have no case of silicosis in the Quarry, of which I am aware; and I became convinced, after four years’ experience here, that slate dust is not merely harmless – but beneficial”.

Dros y degawdau daeth effaith niweidiol y llwch yn amlwg, ac yn ystod y 1970au bu ymgyrchu parhaus i sicrhau iawndal i chwarelwyr a’u teuluoedd a ddioddefodd o ganlyniad i effeithiau niweidiol llwch llechi (silicosis). O 1974 aeth yr Arglwydd Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas ati i ddwysáu’r frwydr dros y chwarelwyr. Yng Ngwynedd bu ymgyrchu caled gan Ted Oliver, cyn-ysgrifennydd Undeb y Chwarelwyr; gan Idwal Edwards, Trefnydd Gogledd-orllewin Cymru Undeb y T&G; a Tom Jones, ei olynydd. Rhoddwyd cefnogaeth ymarferol gan TUC Cymru a chefnogaeth gyfreithiol gan Syr Elwyn Jones, Bangor. Ac yn sgil cyfarfod yn Ffestiniog (tua 1976) a fynychwyd gan Dafydd Elis-Thomas, ffurfiwyd Pwyllgor Ymgyrch dros iawndal; ac yn ddiweddarach, pwyllgorau ymgyrch lleol drwy bentrefi chwareli Gwynedd efo Mrs Marian Jones, Ffestiniog, yn gydlynydd.

Ym Mawrth 1978 cyhoeddwyd Adroddiad Pearson a ddaeth i’r canlyniad:- “We therefore feel unable to recommend that a special compensation scheme be set up for workers in the slate and other quarrying industries.”

O ganlyniad trefnwyd cyfarfodydd protest yn y pentrefi chwarelyddol gan y Pwyllgor Ymgyrchu ac fe drefnodd TUC Cymru wrthdystiad protest yn Llanberis ym mis Gorffennaf 1978. Daeth y Gweinidog Cyflogaeth, Harold Walker AS, yno ynghyd ag Alec Jones AS, Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig. Cynhaliwyd gorymdaith drwy bentref Llanberis – a chreuwyd y faner hon gan bwyllgor ymgyrchu Ffestiniog ar gyfer yr orymdaith. Ymgyrchwyr ardal Blaenau Ffestiniog oedd yr olaf i gyrraedd yr orymdaith, ond oherwydd fod ganddynt y faner cawsant fynd i’r blaen i arwain yr orymdaith, ac roedd y faner i’w gweld yn glir ar ddarllediadau teledu (y newyddion).

Defnyddiwyd y faner hefyd yn 2018 yn ystod gorymdaith i nodi cychwyn ‘Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog’ – dathliad o dreftadaeth, diwylliant a chymuned chwarelyddol Bro Ffestiniog i gefnogi’r cais i ennill Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i’r dirwedd lechi.

Pwnc

Diwydiant

Rhif yr Eitem

2022.13

Historical Associations

Associated Person/Body: Pwyllgor Ymgyrchu
Association Type: user
Date: 1970s (late)
Association Type: place name

Creu/Cynhyrchu

Yoxall, Dafydd Alwyn
Jones, Marian

Derbyniad

Donation, 25/10/2022

Mesuriadau

Lled (mm): 2205
Uchder (mm): 1545

Lleoliad

In store

Categorïau

Dosbarth

health and safety industrial disease
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Diwydiant

Stretcher

2010.73
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Bell

unknown
2019.6
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Table

unknown
2024.1
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Eisteddfod chair

2000.1
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯