Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Credir taw portread yw hwn o wraig yr artist, Julie Delance-Feurgard (1859-1892), a'u merch Alice (1888-1973) yn faban, oddeutu 1888. Roedd Julie yn un o ddisgyblion Paul Delance yn Académie Julian, un o ysgolion celf mwyaf dethol Paris ac ail yn unig i'r École des Beaux-Arts oedd yn gwrthod derbyn menywod. Priododd y pâr ym 1886 a ganwyd Alice ddwy flynedd yn ddiweddarach. Datblygodd Julie yn artist medrus ei hun, ond bu farw'n drasig ym 1892 â hithau'n dri deg dwy oed, ac Alice yn bedair. Prynodd Margaret Davies y paentiad gan Roland, Browse & Delbanco, Llundain ym 1958. Fe gollodd Margaret ei hun ei mam yn bedair oed, sy'n rhoi haen deimladwy arall i hanes y portread tyner, prydferth hwn. Y flwyddyn flaenorol roedd y gwerthwyr wedi arddangos nifer o dirluniau Paul Delance o gasgliad Alice.
Prynwyd dau baentiad arall gan Paul Delance, sydd wedi'u rhestru yn yr arddangosfa, gan Daphne Llewellin o Frynbuga, a'u gadawodd hefyd i'r Amgueddfa mewn cymynrodd (gweler Traeth gyda Ffigurau Eisteddog (La Côte Déserte) a Golygfa o Fryn, Sannois, Seine-et-Oise).
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.