Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cyfleu awyrgylch arbennig, nid adrodd stori neu ddangos lle penodol, yw nod y darlun hwn. Mae Corot wedi brwsio’n ysgafn i gyfleu’r golau sy’n newid. Mae’r lliwiau arian golau yn gymysg â fflachiadau cynnil o liw, er enghraifft yng nghapiau’r ffigyrau. Roedd technegau Corot, a ddatblygodd trwy wylio natur yn ofalus, yn sail i dirluniau’r Argraffiadwyr.
Roedd y paentiad olew ymysg y grŵp cyntaf o ddarluniau a brynodd Gwendoline Davies yn Mehefin 1908. Roedd y chwiorydd Davies wedi edmygu gwaith Corot ym Mharis ac roedd ganddynt lyfr amdano. Prynodd Margaret waith arall yn ystod yr un mis, ac aeth y chwiorydd yn eu blaenau i brynu tri arall
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales