Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Memorial plaque
Plac coffa efydd. Cerfwedd o Britannia yn dal torch llarwyf gyda arysgrif o'i amgylch: HE DIED FOR FREEDOM AND HONOUR BRINDLEY [sic]RYHS [sic] EDMUNDS.
Anfonwyd at deulu'r Preifat Brinley Rhys Edmunds o'r Barri. Bu farw yng Ngwersyll Carcharorion Konigsbruck ar 5 Medi 1918, yn 19 oed, wrth wasanaethu gyda Throedfilwyr Durham. Ymrestrodd gyda'r Gatrawd Gymreig yn wreiddiol cyn cael ei ddiswyddo am fod dan oed ym 1915.