Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Margherita Scott-Ellis, Y Farwnes Howard de Walden (1890-1974)
Roedd yr Arglwydd a'r Arglwyddes Howard de Walden yn byw yng Nghastell y Waun, Sir Ddinbych o 1912 ymlaen. Roedd yr Arglwydd yn hynafiaethydd brwd, roedd ganddo ddiddordeb mawr yng Nghymru a'r Gymraeg ac roedd yn gasglwr celfyddyd fodern. Cafodd Augustus John wahoddiad i'r Waun ym 1912 i beintio portread o Margherita. Er iddi eistedd sawl gwaith ar gyfer y portread, yn ei geiriau hi, y canlyniad oedd 'a horrible picture which, after a while, he simply painted over'. Mae'n debyg i John arddangos y cynfas hwn ym 1917, cyn mynd ati i'w ailwampio'n helaeth, ym 1922 fwy na thebyg.