Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Blodau a Sidan: Symffoni Las
Cafodd Bomberg ei hyfforddi yn Ysgol Slade ac ar y cychwyn byddai'n cyfeillachu â'r Grŵp 'Vorticist'. Yn ystod y 1920au datblygodd arddull fwy naturiolaidd a mynegiannol. Mewn cyfnod o iselder ysbryd yn ystod y 1940au anogodd ei wraig ef i beintio blodau. Rheiny'n fwyfwy lliwgar, ac yma mae'r llestr blodau wedi diflannu mewn ffrwydriad haniaethol o liw. Ychydig lwyddiant a gafodd Bomberg, ond yr oedd yn athro dylanwadol ac erbyn hyn caiff ei gydnabod yn ffigwr o bwys mewn moderniaeth ym Mhrydain.