Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gweddillion Palas Philippe le Bel
Arbenigai Holland ar bynciau pensaerniol a bu ar nifer o deithiau braslunio i'r Cyfandir. Mae'n debyg fod y llun hwn yn union yr un fath â darlun a ddangoswyd yn y Sefydliad Prydeinig ym 1835. Phillip IV, neu 'Phillip Hardd' (1268-1314), oedd Brenin Ffrainc a ddiddymodd y Temlwyr, cipio'r Pab Boniface VIII a dechrau llinach Babyddol Avignon. Mae'r tŵr grisiau addurnedig yn y darlun hwn lawer yn ddiweddarach na Phillip IV, gan mai diwedd y bymthegfed ganrif yw'r arddull.