Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
T shirt
Crys-t yn hyrwyddo lansiad BBC Radio Cymru ar 3 Ionawr 1977. Helo Bobol oedd y rhaglen gyntaf ar y sianel.
Ym 1977, cafodd Radio Cymru ei sefydlu. Hon oedd yr orsaf radio gwbl Gymraeg gyntaf. Y flwyddyn wedyn, lansiwyd Radio Wales, gwasanaeth radio Saesneg i Gymru.
Yr unig ffordd o wrando ar Radio Cymru oedd drwy ddefnyddio FM ar VHF, ac roedd llawer o wrandawyr heb set radio oedd yn gallu derbyn gwasanaeth VHF. Cafwyd ymgyrch gan y BBC yn perswadio gwrandawyr Cymru i brynu setiau VHF.
Gwnaeth Radio Cymru a Radio Wales argraff o’r cychwyn, ac erbyn hyn maent yn rhan annatod o ddarlledu yng Nghymru.