Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cardiff Corporation trolleybus - DBO 475
Erbyn hyn mae'r bws troli a yrrid gan fotor trydan ac a ddefnyddiai drydan o wifrau uwchben yn ymddangos yn un o greiriau bore oes cludiant. Fodd bynnag, roedd yna fysiau troli yn rhedeg mor ddiweddar â 1970 yng Nghaerdydd ac un o'r rhain oedd Rhif 215. Dechreuodd ei oes yn 1948. Daw'r corff o ddwyrain Swydd Gaerhirfryn ac mae wedi'i osod ar siasi B.U.T. a cheir cyfarpar trydanol G.E.C. ynddo. Roedd bysiau troli'n boblogaidd am eu bod yn rhedeg yn llyfn ac yn dawel heb beri unrhyw fath o lygredd. Golygai'r gwifrau uwchben nad oedd y system yn un hyblyg, serch hynny, ac roedd yn achosi problemau pan oedd gofyn cymhwyso llif trafnidiaeth mewn ardaloedd trefol wedi'r Rhyfel — fel yn Llanelli, Pontypridd, Aberdâr a'r Rhondda.
Roedd amryw o fysiau troli Caerdydd yn gweithredu ar sail talu wrth fynd i mewn ac roedd ganddynt fynedfa ychwanegol y tu blaen i hwyluso hynny, er i'r rhan honno gael ei chau yn ddiweddarach ar Rif 215. Ar ddiwedd y pedwardegau codwyd tâl sefydlog o geiniog, waeth beth oedd hyd y daith.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984