Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yr Iarlles Anna de Hornes oedd mam y Tywysog Eugene Alexander enwog, y mae darlun ohono yma hefyd. Roedd Leermans yn ymwneud â grŵp o artistiaid o Leiden a arbenigai mewn peintiadau bach hynod fanwl. Fe"u gelwid yn Leiden 'fijnschilders' (arlunwyr coeth). Yn yr enghraifft hon, mae wedi peintio ar gopr i greu darlun llyfn a chaboledig. Byddai unrhyw un a fyddai wedi edrych ar y darlun yn y cyfnod hwnnw, cyn dyfodiad camerâu, wedi rhyfeddu at berffeithrwydd portreadau o'r fath. Yn ogystal â llofnod yr arlunydd ar gymar y llun hwn, mae ar y ddau arysgrif sy'n cofnodi dyddiadau'r gwrthrych.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.