Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Portread o Ferch
Roedd W.R Sickert yn gyfeillgar â Mancini. Ym 1927 eglurodd ddull yr arlunydd o weithio: 'Byddai'n gwneud ei beintiadau drwy rwyllwaith o wifren a'r sgwarau'n cyfateb i'r sgwarau o flaen yr eisteddwr. Mae marciau'r rhwyllwaith hwnnw i'w gweld o hyd. Byddai'r eisteddwr, fel pe bai wedi ei gaethiwo ac ni allai symud heblaw am ddangos mynegiant ei wyneb. Ond yn crynu ac yn ffroeni o fewn y cyfyngiad hwnnw mae yna ryw fywiogrwydd rhyfeddol, grym ac impasto bywiog.' Prynodd Margaret Davies y peintiad hwn ym 1913.