Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr [1929] oddi wrth Ben Davies (Nantgaredig, Caerfyrddin) yn llongyfarch Dr Iorwerth C. Peate ar ei ysgrifau yn 'Y Ddraig Goch' ar 'Y Crefftwr yng Nghymru' [Ail-ysgrifennwyd rhain yn ddiweddarach a'u cyhoeddi'n gyfrol yn 1933]. Ceir manylion diddorol yn y llythyr yma am Jonathon Thomas (bu f. tua 1904 neu 1909), Tanyrallt, ym mhlwyff Llanfihangel Rhos-y-corn, Brechfa, turniwr coed medrus a arferai deithio "ar hyd ffeiriau Cymru i werthu ei nwyddau. Yr oedd ganddo ystondin ym marchnad Caerfyrddin bob dydd Sadwrn ..."