Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Wheelchair
Cadair olwyn sy'n plygu a ddefnyddiwyd gan David Phillips (1875-1949) o tua'r 1920au hyd ei farwolaeth ym 1949, yn Hermon, sir Benfro. Cafodd David, neu Dafi, ei eni gyda pharlys yr ymennydd a gofalwyd amdano gan ei chwirorydd Elsath a Sarah. Roedd ganddo frawd gyda pharlys yr ymennydd hefyd, ond a fu farw yn 19 mlwydd oed. Mae'r gadair olwyn wedi ei gwneud o fframwaith metal gyda deunydd cynfas ar gyfer y sedd a'r cefn a padin o dan y breichiau. Mae'r llwyfan i'r traed yn bren gyda enw'r model bob ochr: 'The Peero Invalid Chair'. Byddai'r math yma o gadair olwyn plygu wedi cael ei ddefnyddio yn y cyfnod cyn sefydlu'r GIG.