Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1975, oddi wrth Mrs Ceridwen Evans, Eglwyseg, Llangollen, yn cynnwys dywediadau a geirfa lafar ei hardal. (Gweler hefyd Llawysgrifau 2068/1-2 a 2185/1-4) Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.