Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Defnyddiwyd bwa i chwarae’r offeryn llinynnol Cymreig cynnar hwn. Dim ond dau grwth tebyg sydd wedi dod i’r fei ym Mhrydain.
Mae'r crwth ymhlith yr offerynnau traddodiadol hynaf. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod cystadleuaeth chwarae’r crwth yn yr eisteddfod gyntaf erioed yng Nghastell Aberteifi ym 1176. Roedd yn offeryn cyffredin mewn dawnsfeydd gwledig tua 400 o flynyddoedd yn ôl, ond cafodd ei ddisodli gan y ffidil. Erbyn heddiw, mae chwaraewyr fel Cass Meurig yn adfywio’r traddodiad.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.