Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae arferion paentio Catrin Webster yn ymwneud â’r berthynas rhwng gofod canfyddedig a gofod ymgorfforedig. Am nifer o flynyddoedd yn olynol, mae Catrin wedi treulio misoedd yr haf yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain sydd wedi arwain at gorff sylweddol o waith, yn bennaf y gyfres Cerdded yn Rhufain. Mae ei gwaith yn archwilio’r cydadwaith rhwng symudiad, golau a lliw a’n canfyddiad gofodol. Mae’r artist yn disgrifio’r gwaith fel: “Eiliadau diflanedig, y cysylltiad anniriaethol ond hollol ddirdynnol â lle, a welir ac a brofir wrth deithio drwyddo; cipolwg, rhywbeth a deimlir ond heb sylwi arno’n llawn; mae pethau sy’n bodoli y tu hwnt i lun neu rendrad ffotograffig, yn disgyn ar wyneb y paentiadau.”