Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Chwarelwyr yn arddangos y grefft o hollti a naddu llechi o flaen un o'r gwaliau mewn chwarel lechi (credir mai Chwarel Penrhyn yw'r lleoliad).
Mae un o'r chwarelwyr yn eistedd ar 'flocyn tîn' ac yn hollti clwt o lechfaen gan ddefnyddio 'gordd y wal' a 'chŷn manhollt'. Mae'r chwarelwr arall yn eistedd ar 'drafael', yn naddu llechen do gan ddefnyddio 'cyllell naddu'. Mae o ddeutu 19 o chwarelwyr (10 o rheiny yn fechgyn/yn eu harddegau) yn sefyll tu ol i'r ddau chwarelwr. Mae gwisg y chwarelwyr yn awgrymu fod y ffotograff wedi eu dynnu yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.