Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yn bedair ar ddeg oed, ymunodd William John â Gweithdai Bute, gan weithio ar addurno Castell Caerdydd. Ym 1881 ymunodd â stiwdio'r cerflunydd Thomas Nicholls yn Llundain. Ym 1889 llwyddodd i ennill Medal Aur yr Academi Frenhinol ac Ysgoloriaeth Ymchwil i Deithio. Daeth ei daith i ben ym Mharis, lle daeth dan ddylanwad Auguste Rodin (1840-1917). Sefydlodd ei stiwdio gyntaf yn Llundain ym 1891, a sefydlodd ei enw da yn fuan. Mae 'Bachgen yn Chwarae' yn datgelu dylanwad Jules Dalou (1838-1902) ac Alfred Gilbert (1853-1934). Arddangoswyd cerflun efydd maint llawn yn yr Academi Frenhinol ym 1896. Arddangoswyd 'Bachgen yn Chwarae' yn yr 'Exposition Universelle' ym Mharis ym 1900, lle derbyniodd John fedal aur. Rhoddwyd fersiwn fach ar fenthyg i'r 'Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction' Caerdydd ym 1913-14.