Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Cwm Nedd yn ymestyn tuar'r gogledd-ddwyrain o Lansawel i Bontneddfechan. Cafodd harddwch golygfeydd y lle ei ddarganfod gan Thomas Hornor (1785-1844), a gynhyrchodd nifer o lyfrau o luniau dyfrlliw o'r ardal ym 1816-1820. Mae'r olygfa hon yn dangos y rhaeadr uchaf ar afon Hepste, a ddisgrifiwyd ym 1835 gan William Weston Young yn ei 'Guide to the Beauties of Glyn Neath ' fel hyn:'Pan fydd digon o ddŵr, mae Cilhepste Uchaf fel lliain mawr, ac o lwyfan uchaf y graig lle mae'n disgyn, gallwch gerdded neu farchogaeth o dani'.
Paentiwyd yr olygfa hon gan Penry Williams ym 1819. Ganwyd Penry Williams ym Merthyr, cyn symud i’r Eidal lle daeth yn artist poblogaidd gyda thwristiaid.