Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Wraig Tŷ Ifanc
Er i Bonvin addysgu ei hun fwy neu lai, daeth o dan ddylanwad Francois Marius Granet a Gustave Courbet. Derbyniwyd ef yn y Salon o 1847 a bu'n llwyddiannus yn ystod yr Ail Ymerodraeth gan ennill y Légion d'Honneur ym 1870. Daw'r darlun cabinet hwn o ferch ifanc yn plicio tatws o tua 1855. Mae ei realeath yn seiliedig ar olygfeydd genre Jean-Baptiste Chardin (1731-68) ac Ysgol yr Iseldiroedd yn yr ail ganrif ar bymtheg.