Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'n debyg mai Godfrey, ail fab Gawen Goodman o Ruthun, yw hwn. Mae'r arysgrifiad yn dyddio'r peintiad i 1600 pan oedd yr eisteddwr yn ddeugain oed. Mynychodd Godfrey Goleg y Drindod, Caergrawnt ac fe'i hordeiniwyd yn offeiriad yn esgobaeth Aberhonddu ym 1587. Fe'i dangosir yn gwisgo coler ac yn dal rhosyn y cŵn, un o symbolau'r teulu. Ar yr ochr chwith uchaf mae arfbais eryr deuben Goodman. Am flynyddoedd lawer cafodd y gwrthrych ei adnabod yn anghywir fel Godfrey Goodman arall sef trydydd mab Edward Goodman a thad Godfrey Goodman, Esgob Caerloyw.