Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Eglwys Gadeiriol Rouen: Machlud Haul
Gan weithio o ffenestr siop gwneuthurwr hetiau ac edrych allan ar du blaen Eglwys Gadeiriol Rouen, dechreuodd Monet beintio cyfres o fwy na deg ar hugain a olygfeydd o'r eglwys ym mis Chwefror 1892. Dychwelodd ym mis Chwefror 1893 gan gwblhau'r gwaith yn Giverny ym 1893-94. Mae'r darlun hwn o'r eglwys gadeiriol yng ngolau'r machlud yn un o ugain o ddarluniau 'Cathédrales' a arddangoswyd yn llwyddiannus iawn ym Mharis ym 1895. Fel cofnod o'r ffordd y mae golau'n trawsnewid golwg gwrthrych, mae'r gyfres yn dod yn agos at derfynau Agraffiadaeth 'wyddonol'. Roedd y 1890au yn ddegawd o adfywiad cenedlaethol yn Ffrainc, ac mae dewis Monet o gofeb Ffrengig fawr o'r Oesoedd Canol yn y ddinas lle cafodd Jean d'Arc ei merthyru yn awgrymu diben bwriadol wladgarol. Mae ffrém anarferol y darlun hwn, gyda'i bileri hanesiol a'r arysgrif 'Cl. Monet' mewn llythrennau gothig, yn awgrymu bod perchennog blaenorol wedi edrych arno fel symbol o gendlaetholdeb yn ogystal â chofnod gwrthrychol o effeithiau golau. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith ym Mharis yn mis Rhagfyr 1917.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.