Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Codiad yr Ehedydd
PALMER, Samuel (1805-1881)
Ysbrydolwyd Palmer gan y bardd a'r arlunydd William Blake, ac ymsefydlodd ym Mhentref Shoreham yng Nghaint lle datblygodd ddelweddau symbolaidd i glodfori ffrwythlondeb a symlrwydd y wlad. Peintiwyd hwn yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal ym 1839, ac ysbrydolwyd y tirlun gan linellau o 'L'Allegro' gan John Milton, hoff fardd yr arlunydd, mae'n siŵr:
'To hear the lark begin his flight And singing, startle the dull night, From his watch-tower in the skies, Till the dappled dawn doth rise'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.