Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cadair Eisteddfod Ffair y Byd Chicago a chynhaliwyd ym 1893 yn rhan o ffair ryngwladol i ddathlu 400 mlwyddiant glaniad Columbus yn yr Amerig. Dyluniwyd y gadair gan Isaac Davies o Chicago - mae'n cynnwys eryr Americanaidd gerfiedig ar frig y gadair, telyn Gymreig a'r Tair Pluen ar y cefn. Aeth y gadair i Evan Rees (Dyfed), enillydd deg cadair cyn hynny. Bu'n Archdderwydd o 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923. Ymwelodd tua 40,000 o bobl â'r Eisteddfod dros bedair diwrnod, yn bennaf o hufen gymdeithas Cymry-America. Ond beirdd, cerddorion a chorau o Gymru a enillodd y rhan fwyaf o'r cystadlaethau.