Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Llynghesydd Syr Erasmus Gower (1742-1814)
LIVESAY, Richard (fl. 1776-1823)
Ganed Erasmus Gower (1742-1814) yn Sir Benfro a chododd i safle Llyngesydd y Gwynion ym 1810. Yn ystod ei yrfa bu'n archwilio arfordir Patagonia ym 1789, llywio'r llong a aeth â'r Arglwydd Macartney i Tseina, 1792 a dod yn Llywdraethwr Newfoundland,1804. Byddai Livesey, meistr arlunio yn y Coleg Morwrol Brenhinol yn Portsea, yn peintio portreadau a phynciau'r môr. Mae'n debyg i'r portread hwn o'r gwrthrych yn gwisgo lifrai Dirprwy Lyngesydd gael ei beintio pan gafodd ei ddyrchafu i'r safle hwnnw ym 1799.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.