Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffigwr Cerfiedig a Chragen
SMITH, Matthew (1879-1959)
Yn ystod y 1950au roedd Smith yn adnabyddus oherwydd ei liwiau grymus a'i ddawn i beintio fel ymarferydd 'peintio pur' mwyaf Prydain. Cafodd ddylanwad sylweddol ar arlunwyr iau megis Francis Bacon. Mae'r gwaith diweddar hwn yn dangos diddordeb eithriadol Smith yn narluniau bywyd llonydd Braque a Cézanne; mae'n siŵr bod y ffigwr plastr yn gyfeiriad uniongyrchol at Fywyd Llonydd gyda Chiwpid Plastr gan Cézanne (Orielau Sefydliad Courtauld, Llundain). Prynodd Margaret Davies y gwaith ym 1960.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.