Ffigwr Cerfiedig a Chragen - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Ffigwr Cerfiedig a Chragen

SMITH, Matthew (Artist)

Yn ystod y 1950au roedd Smith yn adnabyddus oherwydd ei liwiau grymus a'i ddawn i beintio fel ymarferydd 'peintio pur' mwyaf Prydain. Cafodd ddylanwad sylweddol ar arlunwyr iau megis Francis Bacon. Mae'r gwaith diweddar hwn yn dangos diddordeb eithriadol Smith yn narluniau bywyd llonydd Braque a Cézanne; mae'n siŵr bod y ffigwr plastr yn gyfeiriad uniongyrchol at Fywyd Llonydd gyda Chiwpid Plastr gan Cézanne (Orielau Sefydliad Courtauld, Llundain). Prynodd Margaret Davies y gwaith ym 1960.

Ffigwr Cerfiedig a Chragen
Delwedd: © ystâd yr artist/Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 2055

Creu/Cynhyrchu

SMITH, Matthew
1879-1959
Rôl: Artist
Cyfnod: 1955

Derbyniad

Bequest, 12/12/1963

Mesuriadau

Uchder (cm): 71.8
Lled (cm): 91.8
Uchder (in): 28
Lled (in): 36

Techneg

Canvas

Deunydd

Oil

Lleoliad

In store

Categorïau

Paentiad | Painting Celf Gain | Fine Art Bywyd llonydd Ffrwythau a Llysiau Ôl 1900 CADP content
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

[No title]

Artist: JOHN, Gwen
NMW A 15725
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Mae’r hunanbortread mawr hwn yn dangos yr artist wrth ei gwaith. Fel mwyafrif y golygfeydd o’i stiwdio, mae’r ystafell yn anniben gydag offer paentio ym mhobman, a gallwn weld motiff cyfarwydd y beret coch y bydd yn ei wisgo wrth weithio. Enillodd Hunanbortread Coch wobr gyntaf Cystadleuaeth Gelf Hunting/Observer 1993. Ganwyd Shani Rhys-James yn Awstralia i rieni o Gymru ym 1953. Wedi astudio yng Ngholeg Celf Loughborough a Choleg Celf St Martins yn Llundain, symudodd i Gymru ym 1984. Yn St Martins cafodd ei dysgu gan Gillian Ayres, ymhlith eraill, a daeth nodweddion haniaethol paent yn elfen yn ei harddull drosiadol. Mae’n mwynhau gwead paent, ei liw a’i egni. Yn 2003 enillodd wobr baentio Jerwood.</p>

Artist: RHYS JAMES, Shani
(1992)
NMW A 2512
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Un llun yw hwn o grŵp o bortreadau a gomisiynwyd gan y diwydiannwr Francis Crawshay yn y 1830au. Mae pob un o’r gweithwyr – dynion i gyd – yn grefftwyr a gwŷr di-grefft o weithfeydd dur Hirwaun a gweithfeydd tunplat Trefforest. Peth anghyffredin oedd i un o gewri diwydiant gomisiynu portreadau unigol o’i weithwyr, ond nid diwydiannwr cyffredin oedd Francis Crawshay. Adeiladodd fwthyn bychan i’w hun yn hytrach na byw ym mhlasty’r teulu, a doedd dim diddordeb ganddo yn arferion busnes y Crawshays: cwynai ei dad ei fod yn gwario arian fel y dŵr. Ef oedd unig siaradwr Cymraeg y teulu, a byddai’n fwy tebygol i chi ei weld yn rhannu sgwrs gyda’i weithwyr nag yn eu gorchymyn. Enw hoffus y gweithwyr amdano oedd ‘Mr Frank’. Ddechrau’r 1830au cymerodd Francis yr awennau yng Gweithfeydd Dur Hirwaun, a brynwyd gan ei dad ym 1819, a’r gweithfeydd tunplat newydd yn Nhrefforest. Comisiynwyd portreadau’r gweithwyr oddeutu 1835, ac maent wedi’u priodoli i’r artist teithiol W J Chapman. Arhosodd y set ym meddiant y teulu Crawshay drwy ewyllys, ac mae’n bosib bod mwy yn wreiddiol – mae cofnod o un arall sydd bellach ar goll i bob tebyg.</p>

Artist: CHAPMAN, W. J. (attributed to)
(1835-1840)
NMW A 29939
Mwy am yr eitem hon
Celf

[No title]

Artist: COLLINS, Cecil
(1949)
NMW A 18845
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯