Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Peintiwyd y portread hwn o Lloyd George ym 1935. Pum mlynedd ar hugain cyn hynny, fel Canghellor y Trysorlys, roedd wedi cynllunio arwisgiad Edward VIII fel Tywysog Cymru, cyn dod yn Brif Weinidog o 1916 i 1922, gan arwain Prydain i fuddugoliaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ganed yr artist, John Lavery, yn Ulster. Aeth ymlaen i hyfforddi yn Glasgow cyn setlo yn Llundain, lle gwnaeth enw iddo'i hun fel peintiwr portreadau boneddigion, y gellir eu cymharu â gweithiau Sargent. Fel Cenedlaetholwr Gwyddelig, peintiodd sawl ffigur Gweriniaethol, yn ogystal ag arweinwyr rhyfel Prydain.