Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Môr Vertigo yn archwilio harddwch natur a'r dinistr a wneir gan bobl i'r amgylchedd ac i ni ein hunain.
Mae'r ffilm tair sgrin, sy’n benfeddwol o ran cwmpas a chyflwyniad, yn archwilio ehangder hanes dyn. Mae'r diwydiant morfila, yr argyfwng ffoaduriaid presennol a'r fasnach gaethweision trawsatlantig yn themâu mawr. Yn amlwg drwy gydol y ffilm mae naratif personol Olaudah Equiano (1745-1797), cyn-gaethwas ac ymgyrchydd dros ddiddymu caethwasiaeth.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.