Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Craig y Stac
'Stack Rock ger Ystangbwll ar arfordir Sir Benfro', mae'n debyg, a ddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1793. Mae Stack Rock yn y pellter a Star Rock ar y dde. Mae'r dynion yn halio rhwyd, a gynlluniwyd i hongian i lawr yn y dŵr fel y gallai'r ddau ben gael eu tynnu ynghyd i ddal y pysgod. Bu'r arlunydd yn aros gyda John Cambell, sef Arglwydd Cawdor wedyn, yng Nghwrt Stackpole yn ystod ei daith drwy Gymru ym 1792.