Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Work box
Blwch gwnïo â thempledi clytwaith y teulu Jones-Parry o Lwyn Onn, Wrecsam.
Cafodd ei greu o fahogani ar ddechrau’r 1800au. Mae pob twll a chornel yn llawn templedi bach a dorrwyd o hen bapurau newydd a llythyrau. Roedd pobl gefnog, fel perchnogion y blwch yma, yn hoffi creu clytwaith yn eu hamser hamdden. I bobl y dosbarth gweithiol, roedd clytwaith yn angenrheidiol – roedd yn ddull rhad o greu a thrwsio nwyddau tŷ.