Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Siop y Dofednwr
Mae'r siopwr oedrannus yn syllu'n ddwys ar y forwyn gegin wrth iddi edrych ar ei gynnyrch a dewis yr hyn y mae arni ei eisiau. Byddai neges erotig gudd i olygfeydd o'r fath yn Antwerp ar y pryd. Mae i'r gair Ffleminaidd am aderyn, 'vogel', gysylltiadau ffalig, tra bo'r ferf 'vogelen' yn air slang am gyfathrach rywiol. Byddai Snyders yn arbenigo mewn peintio bywyd llonydd, gan ganolbwyntio ar ddehongli adar, llysiau ac anifeiliaid hela. Mae llun pelydr-X o'r darlun yn dangos mai bwriad yr arlunydd oedd tynnu llun bywyd llonydd pur gan roi lle amlwg i garcas iwrch mawr yn hongian. Ond peintiwyd dros hwnnw ac fe ddefnyddiwyd siâp coesau blaen y creadur yn amlinell ar gyfer y seleri ar y chwith ar waelod y llun. Ychwanegwyd lluniau'r forwyn a'r dyn barfog yn olaf, gan beintiwr o weithdy Rubens.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.