Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gynnau Mawr i'r Ffrynt
Ganwyd Lucy Kemp Welch yn Bournemouth a gwnaeth enw iddi ei hun fel peintiwr ceffylau. Astudiodd Lucy dan Herkomer yn Bushey. Roedd yn awyddus i sefydlu ei hun fel arlunydd rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu raid iddi wynebu llawer o wrthwynebiad oherwydd ei rhyw. Fe ddaeth poster cynnar o'i gwaith a gynhyrchodd i Bwyllgor Recriwtio'r Senedd yn boblogaidd iawn fodd bynnag. Er bod y cafalri yn araf ddiflannu, roedd ceffylau yn dal i fod yn bwysig o ran symud gynau a chyflenwadau a chynnal y cyfathrebu o dan yr amgylchiadau gwaethaf. Ei pheintiad mwyaf enwog oedd I'r Blaen â'r Gynnau.. Peintiodd hwn ar y safle ar Wastadedd Caersallog gan ddefnyddio bocs mawr i warchod y cynfas. Fe'i rhoddwyd ar ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1917. Bu llwyddiant y llun hwnnw yn fodd i'w hannog i gychwyn ar y cynfas mawr hwn. Bu'n gwylio'r Artileri Brenhinol yn hyfforddi yng Ngwersyll Morn, Magdon Hill a'r Punchbowl ger Caer-wynt a phenderfynodd osod yr olygfa yn yr eira. Derbyniodd Drylliau Mawr i'r Ffrynt glod mawr pan arddangoswyd ef yn Academi Frenhinol 1918. Ym 1921, gwerthwyd Gynnau Mawr i'r Ffrynt i Amgueddfa Genedlaethol Cymru am £840 o'r Gronfa Darluniau Rhyfel. Roedd yn rhaid ei storio oherwydd bod yr adeilad heb ei orffen. Fe'i harddangoswyd o 1927 hyd yr Ail Ryfel Byd ac ym 1959 fe'i rhoddwyd ar fenthyciad tymor hir i Glwb Caerdydd a'r Sir. Mae wedi dychwelyd yn 2000 ac wedi gwaith cadwraeth mae'n crogi eto yn y brif neuadd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.