Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
“Roedd pawb yn dweud fod cyfoeth ar gornel pob stryd yn Lloegr... a phob math o ryw nonsens felly.”
Ganed Carlton Peets yn St Kitts. Gweithwyr câns siwgr oedd ei rieni. Ugain oed oedd Carlton pan setlodd yng Nghaerdydd.
“Roedd y penderfyniad i ddod i’r Deyrnas Unedig yn un anodd i ddechrau cychwyn... roedd dwy o fy chwiorydd yma, fy chwaer hŷn. Roedd gen i ddewis, naill ai roedd hi’n mynd i anfon amdanaf fi neu gallwn gael gwaith yn y ganolfan iechyd fel arolygydd glanweithdra... yn anffodus, neu’n ffodus efallai, arian oedd yn dod gyntaf, ac felly mi ddois i at fy chwaer.”
Mae Carlton Peets yn cofio hedfan yn ddyn ifanc ugain oed, o St Kitts i Antigwa, ac yna ymlaen i Drinidad ble aeth ar gwch oedd yn hwylio i Southampton yn y Deyrnas Unedig.
“Roedden nhw’n gwisgo dillad duon hefyd fwy neu lai, ac wrth eu gwylio nhw’n siarad, fe welsoch chi stêm yn dod o’u cegau nhw. Roeddwn i’n dweud wrth fy ffrind ‘edrycha arnyn nhw, stêm yn dod o’u cegau’ ac meddai ef, ‘ti hefyd!’, a finnau’n ateb, ‘a thithau hefyd!’. Yn y gaeaf, ym mis Chwefror, ddois i yma. Roeddwn i’n gwisgo cardigan a ddaeth gyda fi o gartref, ond steil oedd pwrpas honno’n fwy na dim... felly, yn ffodus, fe gerddais i yn honno. Coch, gwyn a du oedd ei lliw, dwi’n meddwl.”
“Rwy’n gwybod ‘mod i’n lwcus mewn ffordd, oherwydd fe wnaethon ni ffurfio tîm criced... clwb o’r enw Combine... fe wnes i ymuno... ymunodd ambell un arall o’r Kittitians, a dyna hefyd oedd yr hogiau a’i ffurfiodd, fwy neu lai... Progressive oedd yr enw a roesom i’r tîm, sef enw tîm o St Kitts. Dyna pam gafodd o’r enw hwnnw gennyn ni.”
“Y cyngor fuaswn i’n ei roi i mi fy hun yn ddyn 20 oed, mi ddweda’ i fel hyn... mi fuaswn wedi gwneud yn siŵr ‘mod i’n cael gwell addysg, yn addysgu fy hun yn well a mynd i weithio fel gwerthwr tai. Dyna’r swydd rwy’n credu y buaswn i wedi’i mwynhau.”