Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Enciliad
BENASSIT, Louis Émile (1824-1898)
Mae'r orymdaith fawr hon o filwyr lluddedig yn dangos lluoedd y Cadfridog Bourbaki yn ffoi rhag y gelyn ym mis Chwefror 1871, adeg y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Bu'r rhyfel byr hwn yn drychineb milwrol i Ffrainc. Yn ystod sgarmes ger y ffin llwyddodd lluoedd Prwsia i gau llwybr encilio'r Ffrancwyr. Penderfynodd tua 83,000 o'r Ffrancwyr gydag 11,000 o geffylau gael lloches yn hafan niwtral y Swistir, yn hytrach nag ildio i'r gelyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.