Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Catrin Finch
Mae Catrin Finch, sy’n enedigol o Geredigion, yn cael ei hystyried fel telynores glasurol fwyaf dawnus ei chenhedlaeth. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, ac mae ei cherddoriaeth yn gwthio ffiniau clasurol, gan gydweithio’n aml gyda cherddorion ar draws genres a chyfandiroedd. Mae’r portread yma, a dynnwyd yn 2006 yn Nhŷ Tredegar, yn dangos Catrin saith mis yn feichiog gyda’i merch, Ana Gwen. Mae’r ffotograffydd Edith Maybin yn archwilio’r berthynas rhwng mam a merch yn ei gwaith yn rheolaidd, gan gyfleu yma bŵer a harddwch corff newidiol Catrin. Yn fwy diweddar yn 2018, wrth gael triniaeth ar gyfer canser y fron, parhaodd Finch i deithio gyda’i cherddoriaeth, gan ei chydnabod fel ffynhonnell ffocws a chryfder.