Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr oddi wrth John Morgans (Mallwyd) at y Dr Iorwerth C. Peate (A.G.C.) ynghylch hen aradr bren o eiddo'i ewythr ac a brynwyd wedi hynny gan yr Amgueddfa Genedlaethol. Dywed - 'Pwy ai gwnaith [yr aradr bren] nis gwn yn siwr iawn. Richard Rees y clochydd Llanymawddwy oedd yn gwneud y rhan fwyaf [f]fordd yma. Clywais fel hyn fod yr "Hen Clochydd y Llan" yn dod drosodd i'r Cwm yma ac yn gwneud Aradr bren mewn diwrnod os byddai heuarns yn barod a myned adref yn ol ei arfau ar ei cefn y noswaith hono am cwpwl o sylltau. Y gwaith arbenig yr aradr bren oedd agor rhuchau tatws a troi hen dir llechweddog gan ei bod mor ysgafn a brynaru byddaf yn ei defnyddio weithiau etto pan fydd y tatws ar lechwedd garw mae mor ysgafn i'w handlo'. [1943]